Wednesday 18 February 2009

Emyr Humphreys Chair of Welsh Writing in English

Swansea University has announced that it has created the Emyr Humphreys Chair of Welsh Writing in English. It is named in honour of Wales’s greatest novelist and leading man of letters who will celebrate his ninetieth birthday in April. Emyr Humphreys is an Honorary Fellow of the University and (along with Seamus Heaney and Gillian Clarke) an Honorary Research Fellow of CREW, the Centre for Research into the English language literature of Wales.

The holder of the chair will be Professor M. Wynn Thomas, who currently holds a Personal Chair in the Department of English. It recognizes that, additional to his international reputation as a scholar of American poetry, Professor Thomas has been a longtime pioneer in the study of Wales’ English-language literary culture.
Professor Thomas said: ‘This is a landmark development, and wonderful recognition of CREW’s work. It is the realization of a longstanding dream of mine, and I am deeply grateful not only to the University for conferring this honour but to Emyr Humphreys for allowing us to grace the Chair with his name.’


Y mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi ei bod yn sefydlu Cadair Emyr Humphreys yn Llên Saesneg Cymru. Y mae’r teitl yn cydnabod cyfraniad enfawr Emyr Humphreys, prif nofelydd Cymru, i ddiwylliant ei genedl ac y mae’n cyd-daro â dathliad ei benblwydd yn naw deg ym mis Ebrill. Mae Emyr Humphreys eisoes yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe a hefyd, ar y cyd â Gillianc Clarke a Seamus Heaney, yn CREW (Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) yn y brifysgol honno.
Deiliad y gadair fydd yr Athro M. Wynn Thomas, sy’n arbenigwr yn llên Saesneg Cymru yn ogystal ag ym marddoniaeth y Taleithiau.
Dywedodd yr Athro Thomas: ‘Y mae hwn yn gam arloesol, ac yn dyst o bwysigrwydd y gwaith y mae CREW yn ei wneud. O’m rhan i, y mae’n benllanw ymdrech oes i sicrhau’r gydnabyddiaeth sefydliadol honno. Rwyf yn hynod ddiolchgar i’r Brifysgol am y fath anrhydedd, ac i Emyr Humphreys am ganiatau i’w enw gael ei ddefnyddio yn y cyswllt arbennig hwn.

No comments: